Skip to main content
Tes home
SearchBack to search
Pennaeth Cysylltiol – Y Gyfadran Fathemateg a Rhifedd

Pennaeth Cysylltiol – Y Gyfadran Fathemateg a Rhifedd

Ysgol Garth Olwg

Rhondda Cynon Taff

  • Expired
Salary:
L6-10
Job type:
Full Time, Permanent
Apply by:
23 March 2023

Job overview

CYNGOR RHONDDA CYNON TAF

Ysgol Garth Olwg

Y Brif Ffordd, Pentre’r Eglwys, Pontypridd CF38 1DX

01443 57 00 57

Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 1250

Pennaeth Cysylltiol – Y Gyfadran Fathemateg a Rhifedd

Cytundeb: Parhaol

Cyflog: L6 – L10 (£51,000-£56,329)

Dyddiad Dechrau: Medi 2023

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi arweinydd blaengar, deinamig a chreadigol i ymuno â Thîm Arwain yr ysgol i arwain y Gyfadran Fathemateg a Rhifedd. Mae hwn yn gyfle gwych i ymgymryd â rôl arweinyddol gyda’r cyfle i ddatblygu’r medrau hyn i’r eithaf mewn Ysgol 3-19.

Bydd y Pennaeth Cysylltiol yn arwain y gyfadran hon i sicrhau safonau rhagorol ar draws yr ysgol, tra hefyd yn cyfranogi ac elwa o’r holl gyfleoedd i ddatblygu medrau arweinyddol o fewn ein hysgol arloesol. Mae cyfle gwych yma i dorri tir newydd ac i gynnig syniadau newydd er mwyn datblygu addysgeg a’r cwricwlwm, fel ein bod yn manteisio ar y cyfnod anturus o ran addysg bob oed a’r datblygiadau cenedlaethol.

Mae hwn yn gyfle euraidd i arweinydd uchelgeisiol sy’n angerddol ac yn llwyr ymroddedig i sicrhau bod ein disgyblion dawnus yn datblygu i fod yn ddysgwyr mentrus, creadigol ac uchelegiesiol, tra hefyd yn datblygu’n ddinasyddion egwyddorol, iach ac hyderus.

Agorwyd Ysgol Garth Olwg ym mis Medi 2019 ar gampws Cymunedol Garth Olwg, ym Mhentre’r Eglwys, sef hen safle Ysgol Gynradd Gymraeg Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Garth Olwg. Mae’r ysgol yn addysgu dros 1250 o ddisgyblion ardal Pontypridd ac yn adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol. 

Mae croeso i chi gysylltu gyda'r ysgol i drafod y swydd hon yn anffurfiol gyda'r Prifathro, Mr Trystan Edwards.

Byddwn fel ysgol hefyd yn fwy na pharod i gyfarfod darpar ymgeiswyr sydd am ymweld â'r campws arbennig hwn cyn mynd ati i wneud cais neu cyn y broses apwyntio. Noder bod y llythyr cais yn gyfle i chi nodi’ch syniadau o ran addysgeg, cynnydd disgyblion, lles disgyblion a’r modd y byddwch yn cyfrannu’n llawn i fywyd Ysgol Garth Olwg.

Oes gennych chi'r rhinweddau i wneud cyfraniad blaengar i weledigaeth fentrus, uchelgeisiol ac arloesol Ysgol Garth Olwg?  

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi ar wefan eteach.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1.00pm ar ddydd ~Iau, 23ain Mawrth 2023. 

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Ni fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

 

About Ysgol Garth Olwg

  • Ysgol Garth Olwg
  • Y Brif Ffordd, Church Village, Pontypridd
  • Rhondda, Cynon, Taff
  • CF38 1DX
  • United Kingdom
+44 1443 57 00 57

View on Google Maps

Visit employer website

Please note that you are wholly responsible for fact checking in respect of the information provided by schools. Please also check for the latest visa and work permit requirements that may apply. Tes is not responsible for the content of advertisements or the policies adopted by advertising schools. Tes asks that all schools follow Tes' Fair Recruitment Policy.

Applications closed