Mwy nag un iaith yma

11th March 2005, 12:00am
Mae Cymru’n llawn plant dwyieithog, meddai Sian Thomas

Ro’n i’n pendwmpian yn y gwely’r bore o’r blaen, ar ol cael fy neffro’n greulon gan sgrech y cloc larwm, pan glywais swn y postman yn stwffio’r llythyron boreol drwy’r blwch postio. Glywais i erioed y fath ffwdan wrth drio postio’r hyn ro’n i’n feddwl oedd pentwr o ‘rwtshbost’ a biliau. Erbyn hyn roeddwn wedi hen ddihuno, ac yn ysu am wybod beth oedd mor anodd i’w bostio. Oeddwn, mi roeddwn yn llygad fy lle - pentwr o bapurau lliwgar yn cynnig bargeinion yn amryw o siope’r ardal, cerdyn post gan ffrindiau ar wyliau sgio, ac amlen frown gan ddyn y treth!

Yng ngwaelod y pentwr, roedd yr hyn achosodd y swn - cylchgrawn swmpus yn hysbysebu’r hyn oedd ar gael i’ch helpu chi i ehangu sgiliau ieithyddol eich plant. “Diddorol!”, meddyliais, a dyma’i agor, a gweld y geiriau “Does your child speak only English?”

Nawr galwch fi’n sensitif, ond mi dwymodd fy ngwaed, cyn i mi hyd yn oed fentro i’r tudalennau eraill. Yr hyn wylltiodd fi, oedd y cymryd yn ganiataol sy’n digwydd byth a hefyd gan y byd Saesneg ei iaith, taw’r Saesneg yw unig iaith y mwyafrif o blant Prydain. Fe wyddom, yma yng Nghymru, am y cynnydd yn y niferoedd sy’n dysgu’r Gymraeg, a llwyddiant aruthrol y gyfundrefn addysg wrth gyflwyno’r iaith i blant o gartrefi di-Gymraeg. “Only English?!”

Yn sicr, ‘dyw hyn ddim yn wir yng Nghymru, nac ychwaith mewn nifer o ardaloedd eraill o’r Deyrnas Unedig, lle mae’r ieithoedd brodorol wedi profi adfywiad - yn Iwerddon a’r Alban er enghraifft. Yn ogystal a hynny, ers degawdau bellach, bu’r ynysoedd yma’n gyrchfan i nifer o dramorwyr sydd wedi ymgartrefu yma, a bellach mae nifer helaeth o’r ail neu’r drydedd genhedlaeth o fewnfudwyr yn falch o allu dweud eu bod yn Gymry Pacistanaidd, yn Saeson Affricanaidd, yn Wyddelod Eidalaidd neu’n Albanwyr Pwylaidd, ac yn y blaen, a’u bod yn arddel eu mamiaith yn ogystal a’r Saesneg. Mewn rhannau o Gymru, yn enwedig yn y trefi a’r dinasoedd lle gwelir canran uchel o fewnfudwyr, mae nifer o ddisgyblion yn siarad tair iaith neu fwy, a’r un mor gartrefol yn y Gymraeg a’r Saesneg a iaith y ‘teulu gartre, ac mae’r rhieni’n awyddus eu bod yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. “Only English?!”

Aeth y cylchgrawn ymlaen i hysbysebu fideos a chyrsiau i ddysgu Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg i blant y wlad - gwych - ond doedd dim son am gyrsiau dysgu Pwnjabi, Arabeg, Cantoneg, Wrdw neu Hindi, er enghraifft, a ieithoedd y gwledydd tu fas i Ewrop - gwledydd sy’n cynrychioli canran mor sylweddol o drigolion yr ynysoedd hyn. Oni fyddai’n wych o beth bod plant brodorol yn dysgu rhywfaint o iaith eu cymdogion newydd? Nid y plant fyddai’r unig rai i elwa o ehangu eu sgiliau iaith. Dwi’n siwr bod nifer ohonom ni wedi teithio dramor ar wyliau ac edmygu sgiliau ieithyddol y sawl sy’n gweini arnom ni mewn gwestai neu siopau - eu gallu i gyfathrebu mewn nifer o ieithoedd. Faint ohonom ni, drigolion brodorol yr ynysoedd hyn sy’n gallu cynnal sgwrs ar unrhyw lefel mewn tair neu bedair o ieithoedd? Onid yw hi’n bryd i ni dderbyn bellach bod nifer o ieithoedd brodorol, hyd yn oed yma yng Nghymru?

Y gwir amdani yw bod y mwyafrif ohonom ni jest ddim yn trio! Mae iaith yn ffenest ar ddiwylliant cenedl ac, yn y byd sydd ohoni, oni allwn ni i gyd elwa o wybod ychydig mwy am ffordd o fyw, arferion, traddodiadau a chredoau ein cymdogion? Fyddai’r byd yma’n lle diflas ar y naw pe byddai pawb yn gwmws yr un peth, ac yn siarad un iaith yn unig. Mae’r byd yn fach, a rhaid i ni fyw ochr yn ochr a’n gilydd a pharchu’n gwahaniaethau, ffordd o fyw a diwylliannau amrywiol. Fe dystir yn gyson i’r cyd-fyw ddigwydd yn naturiol o fewn muriau ysgolion meithrin a chynradd, lle’n aml y daw ieithoedd yn rhwydd i blant, ond beth sy’n digwydd wrth i’r unigolion yma dyfu’n hyn? Pam mae gwahaniaethau’n gallu datblygu’n broblemau a siarad diddiwedd buarth ysgol yn troi’n dawelwch neu’n gweryl ar balmant stryd fawr? Hwyrach taw’r camau cyntaf at gyfathrebu ydi parchu ieithoedd a diwylliant ein gilydd, hybu dealltwriaeth o’r hyn sy’n wahanol amdanom ni ac annog goddefgarwch. Y man cychwyn, efallai, yw cydnabod a dathlu realiti’r geiriau - “NOT only English!”

Mae Sian Thomas yn gyflwynwraig teledu a radio, ac mae ganddi radd ieithyddiaeth