Beiwch ni am bopeth

1st October 2004, 1:00am

Share

Beiwch ni am bopeth

https://www.tes.com/magazine/archive/beiwch-ni-am-bopeth
Cryn bythefnos ers dechrau’r tymor newydd ac mae ysgolion eisoes yn cael eu beio am fwlio, llau pen, bwyd gwael, plant tew, diffyg ymarfer corff ac yn y blaen. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Pwy fyddai’n cael y bai am ddiffygion cymdeithas pe na bai ysgolion yn gocyn hitio mor gyfleus?

Faint o athrawon fu wrthi yn ystod yr haf yn eu gweithdai cudd yn magu llau pen ar gyfer mis Medi? O wrando ar rieni yn ein hardal ni dylai athrawon fod yn arbenigwyr byd-eang ar fagu llau pen. Yr un hen gan - athrawon sydd ar fai.

Mae bwlio yn her ymhob agwedd ar fywyd, nid yn unig mewn ysgolion. Unwaith eto, yr ysgolion sydd ar fai. Yn rhyfedd, does byth bai ar y plant na’r teuluoedd! Mae bwlio’n broblem, a rhaid bod yn sensitif a gofalus wrth ddelio ag achosion, sy’n gallu mynd allan o reolaeth yn hawdd ac yn anffodus troi’n drasiedi. Mae gan bob ysgol bolisi ar sut i ddelio a bwlio ac yn treulio cryn dipyn o amser yn datrys y broblem.

Er efallai mai dyna’r gred gyffredinol, dydyn ni ddim yn hyfforddi plant i fod yn fwlis. Fe’n harweinir i gredu fod pob plentyn tew (fedrai ddim meddwl am air arall sy’n “PC”) yn ganlyniad i fwyta ‘sglodion yn yr ysgol.

Mae’n wir oherwydd dwi’n ei ddarllen yn y papurau, ei glywed ar y radio a’i weld ar y teledu.

Mae’n debyg mai’r unig beth all ysgolion ei gynnig yn ddyddiol yw sglodion.

Roeddwn i a’r rheolwr arlwyo wedi’n brifo gan y cyhuddiad. Roeddem yn trafod y fwydlen ar gyfer tymor yr hydref ar y pryd. Roedd y fwydlen yn cynnig bwyd iachus ar gyfer y plant. Gofynnwyd i ni am y cynnwys, a oedd digon o ddewis o ffrwythau a llysiau? Croeso i unrhyw newyddiadurwrwraig ymuno a ni am ginio, ar fyr rybudd, ac efallai y byddent wedyn yn medru ysgrifennu beth yn union sydd ar gael yn ein hysgolion. Edrychaf ymlaen at glywed gennych.

Rhaid mynd nawr i gerdded y plant o gwmpas yr iard er mwyn codi archwaeth am ginio iachus, cytbwys a di-sglodion. Mae’r plant, fel mae’n digwydd, yn paratoi eu hoff frechdanau. Dylwn ychwanegu nad yw’r cwricwlwm, hyd y gwn i, yn cynnwys rhaglen ar fyw’n afiach, sut i fwlio eraill, na sut i fagu llau pen.

Terry Williams yw pennaeth ysgol iau Litchard, Pen-y-bont ar Ogwr. Nid yw’n ysgrifennu yma yn rhinwedd ei swydd.Beth yw’ch barn chi? Ysgrifennwch at cymru@tes.co.uk

Want to keep reading for free?

Register with Tes and you can read two free articles every month plus you'll have access to our range of award-winning newsletters.

Keep reading for just £1 per month

You've reached your limit of free articles this month. Subscribe for £1 per month for three months and get:

  • Unlimited access to all Tes magazine content
  • Exclusive subscriber-only stories
  • Award-winning email newsletters
Recent
Most read
Most shared