Dyddiau Darllen Difyr

19th May 2006, 1:00am

Share

Dyddiau Darllen Difyr

https://www.tes.com/magazine/archive/dyddiau-darllen-difyr
BOOK DETAILS

DARLLEN MEWN DIM Y LOLFA. Parc Prysur Dref Wen, pound;4.99

AMSER CHWARAE GRWNDI’R GATH, Dref Wen, pound;3.99

LLYFR LLUN A GAIR SALI MALI CYMDEITHAS Lyfrau Ceredigion, pound;5.50

BLE MAE PAWB? Gomer, pound;4.99

ALUN YR ARTH Y MOR-LEIDR Y Lolfa, pound;2.95

BILI BONCYRS SEREN Y RODEO Y Lolfa, pound;2.95

FFION A’R TIM RYGBI Gomer, pound;3.99

RHY IFANC I RYFEL Gomer, pound;4.99

SGWBIDW AUR Y Lolfa, pound;2.95

ISIO BET? Y Lolfa, pound;2.95

Mae yna lawer o lyfrau gwreiddiol Cymraeg i’w canmol eleni, a hynny’n rhannol oherwydd tair cyfres sydd a’r bwriad o “lenwi’r bylchau” yn neunydd darllen Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3. Bydd sawl un o’r teitlau yn cael eu gwerthfawrogi y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Un o’r cyfresi yma yw Darllen mewn Dim gan Angharad Tomos - cyfres ddarllen gam wrth gam yn seiliedig ar gymeriadau Rala Rwdins. Mae iddi luniau lliwgar ac mae’r brawddegau byr yn gwneud defnydd mynych o ailadrodd.

Bydd plant ifanc iawn wrth eu bodd gyda Parc Prysur gan Rebecca Finn ac Amser Chwarae Grwndi’r Gath gan Lara Jones. Mae’r ddau wedi cadw’r testun Saesneg gwreiddiol, gan eu gwneud yn berffaith ar gyfer cartrefi lle mae un neu’r ddau riant yn ddi-Gymraeg.

Mae Llyfr Llun a Gair Sali Mali gan Dylan Williams hefyd yn siwr o gael croeso ar silff y plant iau. Mae’r llyfr bwrdd cadarn hwn gyda lluniau cartwnaidd yn ffordd ardderchog o gyflwyno geiriau newydd.

Ble Mae Pawb? gan Rhiannon Rowlands yw un o’r teitlau diweddaraf i’r plant cyn-ysgol. Mae’r brawddegau byr a’r lluniau manwl yn ei wneud yn llyfr gwych i’w rannu ac i rai sy’n dechrau darllen.

I blant dan 7, mae Alun yr Arth y Mor-Leidr gan Morgan Tomos yn siwr o apelio at fechgyn yn enwedig. Ynddi, mae Alun yn cael ei lusgo’n anfoddog i’r siop lyfrau. Yno, mae’n creu llanast wrth i’w ddychymyg byw ei droi’n for-leidr dewr.

Stori hwyliog yw Bili Boncyrs - Seren y Rodeo gan Caryl Lewis am chwarae Cowbois ac Indians, ac ymdrechion pawb i gael Mwwlsen, y fuwch fwyaf tew a diog yn y byd, i symud.

Y llynedd, cyhoeddwyd dros 20 o deitlau yng nghyfres Ar Wib, sydd wedi’u hanelu at y grwp oedran 7-9. Un o’r goreuon yw Ffion a’r Tim Rygbi gan Elin Meek. Caiff Ffion ei pherswadio i chwarae yn nhim rygbi’r bechgyn, a cheisia wella ei gem trwy gymorth ei thad-cu.

Bydd plant hyn sy’n hoffi hanes yn siwr o fwynhau Rhy Ifanc i Ryfel gan Mair Wynn Hughes, sy’n gofnod o fywyd ar Ynys Mon yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf trwy lygaid dau ffrind ifanc.

Cr wyd cyfres Pen Dafad i fodloni anghenion darllen hamdden disgyblion CA3.

Y teitl diweddaraf yw Sgwbidw Aur gan Caryl Lewis, sy’n gipolwg ar fywyd Colin sydd a thad sydd wedi gwirioni ar ralio a mam sydd mymryn yn rhy gyfeillgar a ffrind gorau ei dad.

Mae Isio Bet? gan Bedwyr Rees yn adrodd hanes bywyd mewn tref fach yn y gogledd, a’r ffordd y llithra’r cymeriadau i fywyd diwylliant gang. Er yn ddoniol mewn mannau, mae’r nofel hefyd yn ddarlun cignoeth o’r trais a’r mileindra sy’n dod yn rhan naturiol o fywyd bob dydd. Mae hon yn nofel dreiddgar gyda thipyn o ddyfnder iddi.

Nia Gruffydd yw Rheolwraig Gwasanaethau Defnyddwyr, Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd

Want to keep reading for free?

Register with Tes and you can read two free articles every month plus you'll have access to our range of award-winning newsletters.

Keep reading for just £1 per month

You've reached your limit of free articles this month. Subscribe for £1 per month for three months and get:

  • Unlimited access to all Tes magazine content
  • Exclusive subscriber-only stories
  • Award-winning email newsletters
Recent
Most read
Most shared