Her dwyieithrwydd

7th July 2000, 1:00am

Share

Her dwyieithrwydd

https://www.tes.com/magazine/archive/her-dwyieithrwydd
Yng Nghmru, mae’r her o ddatblygu llythrennedd plant yn cynnwys dysgu ac addysgu mewn dwy iaith. Mae hon yn her sylweddol, ac y mae llwyddiannau’r ysgolion Cymraeg a dwyieithog yn destun llawenydd i ni fel cenedl. Nod sylfaenol ysgolion dwyiethog ac ysgolion dynodedig Gymraeg mewn perthynas a datblygiad iaith yw sicrhau bod plant yn ennill hyfedredd cyfartal yn y ddwy iaith cyn gynted a phosibl yn ystod eu gyrfa ysgol, ac felly eu galluogi i chwarae eu rhan yn llawn mewn cymdeithas a gwlad ddwyieithog ac i ymelwa’n llawn ar fod yn meddu ar ddwy iaith. Er mwyn medru cyflawni hyn, mae angen i’r disgyblion ddatblygu medrau llythrennedd deuol.

Rhaid nodi nad yw medrau llythrennedd deuol yn dilyn yn naturiol o dderbyn addysg ddwyieithog. Maent yn fedrau penodol a all gefnogi datblygiad meddyliol a chreadigol plentyn, yn ogystal a’i dwf deallusol a’i ddealltwriaeth o bynciau a materion amrywiol. Mae’n ofynnol i ysgolion wneud ymdrech gynlluniedig i’w datblygu oddi mewn i sefyllfaoedd dwyieithogo bob math - ac mae’n hanfodol sicrhau nad gwanhau’r naill iaith na’r llall a wneir wrth weithredu yn y modd hwn.

Beth felly yw Llythrennedd Deuol? Yn syml, y gallu i fanteisio’n llawn ar hyfedredd mewn dwy iaith i ddibenion amrywiol. Yng Nghymru, sonnir am y Gymraeg a’r Saesneg, ond yr un yw’r medrau pa ddwy iaith bynnag yr ymwneir a hwy. Mae’r medrau’n cynnwys y canlynol:

* troi’n rhwydd o’r naill iaith i’r llall;

* trosi llafar cyflym o’r naill iaith i’r llall;

* darllen o wahanol ffynonellau yn y ddwy iaith a chymathu gwybodaeth ohonynt;

* cyflwyno ar lafar neu’n ysgrifenedig yn y naill iaith neu’r llall yn unol a gofynion y gynulleidfa;

* darllen darn mewn un iaith a chyflwyno crynodeb ohono ar lafar mewn iaith arall.

Gorau po gyntaf yr awn ati i gyfundrefnu gweithgarwch llythrennedd ysgolion a cholegau i gynnwys y medrau hyn - a dangos i’r byd yr hyblygrwydd meddwl a’r egni creadigol a berthyn i genedl ddwyiethog y Cymry.

Rhiannon Lloyd


Want to keep reading for free?

Register with Tes and you can read two free articles every month plus you'll have access to our range of award-winning newsletters.

Keep reading for just £1 per month

You've reached your limit of free articles this month. Subscribe for £1 per month for three months and get:

  • Unlimited access to all Tes magazine content
  • Exclusive subscriber-only stories
  • Award-winning email newsletters
Nothing found
Recent
Most read
Most shared