Mewn undeb mae nerth

10th September 2004, 1:00am

Share

Mewn undeb mae nerth

https://www.tes.com/magazine/archive/mewn-undeb-mae-nerth
Ar drothwy tymor newydd faint ohonom fydd yn meddwl am ein hundeb? Dim llawer, rwy’n tybio. Byddwn yn hapus i dalu’r tal aelodaeth, dodi’r blwyddlyfr a’r cylchgrawn yn y dror ac anghofio am fodolaeth yr undeb tan fod problem i ddatrys!

Ie, sefydliad ar gyfer argyfwng yw undeb i’r mwyafrif ohonom ond mae iddo lawer mwy, fel y dysgais o weithio gydag UCAC.

Clywir llais yr undebau ym myd addysg ar bob lefel. Mae ganddynt fewnbwn i bolisiau lleol a chenedlaethol a chyfle cyson i leisio barn a dylanwadu ar benderfyniadau.

Maent yn cyfarfod bob tymor gyda chyrff megis CBAC, ACCAC, Partneriaid Addysg y Cynulliad a’r Gweinidog Addysg. Cant oll gyfle i ymateb i ddogfennau’r Adran Addysg yn Llundain a rhoi tystiolaeth i’r Corff Adolygu Athrawon ac i ymateb i ddogfennau ymgynghorol am newidiadau posibl.

Serch hynny, mae’r mwyafrif ohonom rywbryd yn gofyn: “Beth mae’r Undeb yn gwneud?” Sut allwn fod yn ymwybodol o’i rol os ydym yn osgoi pob cyfarfod? Mae’r mwyafrif yn osgoi cyfarfodydd undeb oherwydd llwyth gwaith, ofn cyfrifoldeb ychwanegol ac ati; ond does dim yn fwy gwerthfawr i weithwyr undeb na thrafodaethau gydag athrawon. Sut all y gweithwyr ein cynrychioli fel arall?

Gall undeb godi cwestiynau am bynciau, asesu, arholiadau allanol, ariannu, y cwricwlwm, dyfodol chweched dosbarth, cyrff addysg... ond mae angen i ni godi problemau a gofidiau gyda’n hundeb am drafodaeth bellach.

Cymerwch air un a fu’n osgoi cyfarfodydd undeb am flynyddoedd! Cefais agoriad llygad gyda chyfleoedd di-ri i fynegi barn a cheisio gwneud gwahaniaeth. Bum yn ffodus i gael trafod gydag athrawon eraill wrth baratoi am gyfarfodydd neu ymgynghoriadau megis Adroddiad Daugherty, Llwybrau Dysgu 14 - 19, adolygiad ACCAC o’r Cwricwlwm ac Asesu, adnoddau Cyfrwng Cymraeg, ELWa ac ati fel bod modd i mi drosglwyddo barn arbenigwyr ac nid dim ond fy marn bersonol i.

Yn sicr nid delio a diswyddo, anghydfod neu amodau gwaith yw unig waith undeb! Pwysaf arnoch oll i ail-ystyried rol eich undeb, a’ch rol chi fel aelod, ac efallai, rhyw ddydd, fe gewch chithau flwyddyn sabothol a chyfle i gael darlun ehangach o fyd addysg yng Nghymru a gwir ddylanwad undebau.

Mae Elaine Edwards yn Bennaeth Saesneg mewn ysgol uwchradd ac yn gyn-lywydd UCAC

Want to keep reading for free?

Register with Tes and you can read two free articles every month plus you'll have access to our range of award-winning newsletters.

Keep reading for just £1 per month

You've reached your limit of free articles this month. Subscribe for £1 per month for three months and get:

  • Unlimited access to all Tes magazine content
  • Exclusive subscriber-only stories
  • Award-winning email newsletters
Nothing found
Recent
Most read
Most shared