Trysorfa o eirfa Gymraeg

20th May 2005, 1:00am

Share

Trysorfa o eirfa Gymraeg

https://www.tes.com/magazine/archive/trysorfa-o-eirfa-gymraeg
Yn Chwefror 2005 cafodd Ein Geiriau Ni (Egni) - Corpws Iaith Llenyddiaeth Plant -ei lansio wedi dwy flynedd o waith arloesol gan seicolegwyr addysg AALl Abertawe gyda chymorth Uned Gymreig y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (SCYA). Dyma’r tim datblygu a fu hefyd yn creu cyfres Profion Darllen Cymru Gyfan. Ond beth yn union yw Ein Geiriau Ni, a sut gall fod o fudd i athrawon y Gymraeg?

Y cam cyntaf yn y datblygiad oedd casglu bron 500 o lyfrau plant Cymraeg, yn amrywio yn ol oed targed ac anhawster o safon Sali Mali i werslyfrau hanes Cyfnod Allweddol 3, ond y mwyafrif yn targedu oed CA1 a CA2. Bu panel o athrawon ac arbenigwyr iaith yn archwilio’r llyfrau a’u dosbarthu yn ol lefel Cwricwlwm Cenedlaethol o lefel 1-5. Yna sganiwyd y llyfrau i gronfa, y corpws mwyaf o eirfa’r Gymraeg a gr wyd erioed. Wedi proses hir o lanhau’r corpws, sef cywiro sillafiad geiriau oedd heb sganio’n gywir, aed ati i’w ddadansoddi.

Cynhyrchu rhestrau amlder geiriau yw’r nod sylfaenol. Un cymhlethdod yn y Gymraeg yw’r treigladau, felly gwelwn ffurfiau fel “cath”, “gath”, a “nghath”. Fodd bynnag, yn Ein Geiriau Ni nid yw hyn yn ofid oherwydd gallwn gyfrif y ffurfiau treigledig ar wahan neu gyda’r ffurf gysefin “cath”. Yn yr un modd medrwn gyfrif ffurfiau berfol megis “aeth” ac “af” ar wahan, neu eu crynhoi o dan ymbar

* “mynd”.

Mae’r rhestrau amlder yn ddadlennol. Wrth gyflwyno unrhyw iaith i ddysgwyr rhoddir y pwyslais yn aml ar ddysgu enwau (nouns), ond 20 o enwau yn unig sydd yna ymhlith y 200 gair Cymraeg mwyaf cyffredin. Y ddau sy’n codi amlaf yw “mam” a “dad”, a defnyddir rhai o’r lleill mewn ffyrdd heblaw fel enwau, megis “lawer tro” ac “ar ben”. Mae enwau personol bechgyn yn dipyn mwy cyffredin nag enwau merched, sy’n awgrymu mai bechgyn yw prif gymeriadau’r mwyafrif o lyfrau plant Cymraeg. Yr enwau mwyaf poblogaidd ar gyfer bechgyn yw Tomos a Huw, ac ar gyfer merched - Catrin a Llio.

Wrth greu’r corpws cysylltwyd pob gair a’r llyfr y daeth ohono, felly gallwn hefyd nodi amlder y geiriau mewn llyfrau ar wahanol lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae’n bosib nodi’r cyfuniadau o eiriau yn y llyfrau, felly gwyddom, er enghraifft, mai’r tri chyfuniad mwyaf cyffredin o’r ansoddair “bach” yw “yn ddistaw bach”, “y ty bach” ac “y mochyn bach” - a’r moch yn dod mewn trioedd, mae’n debyg.

Ond nid dim ond tegan i ieithwyr mo Ein Geiriau Ni. Ymhlith ei ddibenion ymarferol gallwn nodi:

* Sefydlu rhestr y 100 Gair a’r 200 Gair Amlaf i hybu camau cyntaf darllen

* Cynorthwyo awduron a chyfieithwyr llyfrau plant i dargedu eu hiaith at oedrannau penodol

* Helpu sefydlu oed darllen a lefel anhawster deunydd darllen

* Helpu sicrhau darllenadrwydd priodol ar gyfer gwerslyfrau Cymraeg mewn gwahanol bynciau

* Darparu canllawiau ar gyfer creu profion darllen Cymraeg sy’n adlewyrchu defnydd o’r iaith mewn llyfrau go iawn.

Tebyg y bydd athrawon yn darganfod dulliau eraill o elwa ar yr adnodd rhyfeddol hwn y bwriedir ychwanegu llyfrau newydd ato wrth iddynt gael eu cyhoeddi. I gael gwybod mwy ewch i’r wefan, sef www.egni.org.

Robat Powell yw pennaeth uned Gymreig y SCYA

Want to keep reading for free?

Register with Tes and you can read two free articles every month plus you'll have access to our range of award-winning newsletters.

Keep reading for just £1 per month

You've reached your limit of free articles this month. Subscribe for £1 per month for three months and get:

  • Unlimited access to all Tes magazine content
  • Exclusive subscriber-only stories
  • Award-winning email newsletters
Recent
Most read
Most shared