Skip to main content
Tes home
SearchBack to search
Headteacher

Headteacher

Ysgol Y Preseli School

Pembrokeshire

  • Expired
Salary:
L 28 - L 34 (£ 79,748 - £ 92,373)
Job type:
Full Time, Permanent
Start date:
1 January 2021
Apply by:
7 October 2020

Job overview

I ddechrau 1 Ionawr 2021 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny

Mae Corff Llywodraethol Ysgol Y Preseli yn awyddus i benodi pennaeth brwd sydd a'r gallu i arwain, ysbrydoli a datblygu ymhellach addysg Gymraeg o fewn y sir gan lywio'r ysgol at ragoriaeth ym mhob agwedd o'i darpariaeth.

Mae Ysgol Y Preseli yn rhan annatod o'i chymuned leol; mae'n gweithio mewn partneriaeth agos gyda ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd eraill. Ar gampws y Preseli lleolir hefyd lloeren cyfrwng Cymraeg o Ysgol Arbennig Portfield, Canolfan Iaith, Canolfan Ddysgu Gymunedol, a Chanolfan Hamdden gan gynnwys adnoddau pob tywydd. Mae'r ysgol yn meithrin yn ei disgyblion hanfod yr arwyddair Cofia Ddysgu Byw, arwydd cryf o'r ymagwedd at baratoi disgyblion at fywyd tra yn yr ysgol a thu hwnt.

Mae'r Preseli yn ysgol lwyddiannus gyda chanlyniadau arholiadau ardderchog. Mae'n cael ei chydnabod yn ysgol flaengar sydd wedi cydweithio yn y blynyddoedd diwethaf gyda nifer o sefydliadau addysgol. Mae'n ysgol arweiniol gyda Athrofa y Drindod Dewi Sant ar gyfer addysg gychwynnol athrawon, yn ysgol arloesol dysgu proffesiynol, a hefyd yn ysgol arloesol Cwricwlwm Newydd i Gymru.

O dan ymgynghoriad ar hyn o bryd mae'r weledigaeth a'r bwriad i sefydlu ysgol 3-19 oed yng Nghrymych yn 2022 drwy uno Ysgolion y Frenni a'r Preseli. Ceir penderfyniad ar yr ymgynghoriad hwn ar 8 Hydref 2020.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i Wasanaeth Addysg a Phlant Sir Benfro. Rydym yn anelu at gefnogi plant a phobl ifanc bregus i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau bod plant yn cael eu gwarchod a'u hamddiffyn ac fe fyddant yn cymryd camau i sicrhau eu lles ac yn cydnabod bod gan blant yr hawl i gael eu diogelu. Mae ethos cyffredinol yr holl ysgolion yn cefnogi hyn.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl (rhestr plant) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gofynnwn i bob ymgeisydd gyflwyno ceisiadau ar-lein. Os na fyddwch yn gallu gwneud hyn, cysylltwch â'r Gweinyddwr Recriwtio cyn gynted â phosibl trwy e-bost i recruit@pembrokeshire.gov.uk.

Yn ychwanegol at hyn, os bydd gennych unrhyw anghenion pellach neu os bydd arnoch angen unrhyw gymorth ychwanegol yn ystod y broses recriwtio, cysylltwch â ni trwy anfon neges e-bost i recruit@pembrokeshire.gov.uk

Os ydych eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn siwr eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau ffurflen gais.

Ni fydd unrhyw geisiadau sy'n cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.

Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.

http://www.ysgolypreseli.com/
https://www.facebook.com/ysgolypreseli

GWNEUD CAIS AM Y SWYDD
Cyflog: L 28 - L 34 (£79,748 - £92,373)

CYFWELD
Cynhelir y cyfweliadau dros gyfnod o ddeuddydd ar 22 a 23 Hydref 2020.
Fe hysbysir yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar 14 Hydref 2020.
Dyddiad cau: 8 Hydref 2020 canol nos.

Attached documents

About Ysgol Y Preseli School

Please note that you are wholly responsible for fact checking in respect of the information provided by schools. Please also check for the latest visa and work permit requirements that may apply. Tes is not responsible for the content of advertisements or the policies adopted by advertising schools. Tes asks that all schools follow Tes' Fair Recruitment Policy.

Applications closed