Skip to main content
Tes home
SearchBack to search
Pennaeth

Pennaeth

Ysgol Caer Elen

Pembrokeshire

  • Expired
Salary:
£67,183 - £77,818
Job type:
Full Time, Permanent
Apply by:
11 October 2020

Job overview

Pennaeth - Ysgol Caer Elen
Job reference: REQAA2086

Job description

Mae Llywodraethwyr Ysgol Caer Elen am benodi pennaeth blaengar, dynamig ac ysbrydoledig i arwain a datblygu ymhellach yr addysg Gymraeg a ddarperir i ddisgyblion 3 i 16 oed, gan sicrhau cyfleoedd dysgu a phrofiadau eithriadol o’r radd uchaf i’r myfyrwyr i gyd. Mae hyn yn gyfle i ddatblygu ac arwain ysgol unigryw ac arloesol o ran addysg Gymraeg yn yr ardal.

Mae’r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi Pennaeth -

  • A fydd yn datblygu, hyrwyddo a gweithredu gweledigaeth gadarn ar gyfer datblygiad yr ysgol mewn partneriaeth â'r disgyblion, staff, y llywodraethwyr, y rhieni, y gymuned ehangach a'r awdurdod lleol;
  • Sy'n rheolwr ac yn arweinydd arloesol a deallus, yn meddu ar y profiad i ddatblygu a chefnogi staff, rheoli cyllideb a gweithio gyda chorff llywodraethu;
  • Sy’n gallu cynllunio'n strategol i sicrhau gwelliant parhaus a dilyniant dysgu ar draws ystod oed yr ysgol, gyda ffocws clir ar wella deilliannau a lles disgyblion gan gyrraedd rhagoriaeth
  • Yn gyfathrebwr rhagorol sy'n gallu herio, ysbrydoli ac ysgogi eraill i ddysgu a chyflawni
  • Fydd yn llysgenad i hyrwyddo diwylliant Cymru a'r Gymraeg;
  • Sy’n angerddol ynghylch meithrin y partneriaethau rhwng disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr, ysgolion a'r gymuned ehangach

 

Sefydlwyd Ysgol Caer Elen fel ysgol pob oed 3-16 Cyfrwng Cymraeg cyntaf Sir Benfro yn 2018, i gwrdd a’r galw cynyddol am addysg Gymraeg yng nghanol a de Sir Benfro. Ar hyn o bryd, darperir addysg i ddisgyblion hyd at flwyddyn 9, a disgwylir i’r ysgol gyrraedd ei llawn dwf dros y blynyddoedd nesaf gan gyrraedd oddeutu mil o ddisgyblion.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan wneud y gorau o’r adnoddau a’r cyfleusterau newydd sydd o’r radd flaenaf. Rydym yn awyddus i benodi pennaeth a fydd yn arwain yr ysgol at ragoriaeth ym mhob agwedd o’i darpariaeth.

Mae gan yr ysgol dîm o staff brwdfrydig, teyrngar, talentog ac ymroddedig, ac mae iddi natur deuluol, gyda chefnogaeth dda oddi wrth y rhieni a’r gymuned. Mae’r llywodraethwyr a’r staff yn argyhoeddedig bod lles a llwyddiant pob plentyn yn ganolog i ethos hapus Ysgol Caer Elen. Bydd y pennaeth newydd yn cael cefnogaeth gadarn gan y corff llywodraethol.

Bydd yn rhaid i unrhyw ymgeisydd nad yw'n bennaeth ar hyn o bryd feddu ar gymhwyster CPCP ar yr adeg benodi.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i Wasanaeth Addysg a Phlant Sir Benfro. Rydym yn anelu at gefnogi plant a phobl ifanc bregus i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau bod plant yn cael eu gwarchod a'u hamddiffyn ac fe fyddant yn cymryd camau i sicrhau eu lles ac yn cydnabod bod gan blant yr hawl i gael eu diogelu. Mae ethos cyffredinol yr holl ysgolion yn cefnogi hyn.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl (rhestr plant) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Amrediad Cyflog: L 21– L 27
Dyddiad dechrau: Ionawr 1af neu cyn gynted â phosib wedi hynny

Gofynnwn i bob ymgeisydd gyflwyno ceisiadau ar-lein. Os na fyddwch yn gallu gwneud hyn, cysylltwch â’r Gweinyddwr Recriwtio cyn gynted â phosibl trwy e-bost i recruit@pembrokeshire.gov.uk.
 
Yn ychwanegol at hyn, os bydd gennych unrhyw anghenion pellach neu os bydd arnoch angen unrhyw gymorth ychwanegol yn ystod y broses recriwtio, cysylltwch â ni trwy anfon neges e-bost i recruit@pembrokeshire.gov.uk
 
Os ydych eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn siwr eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau ffurflen gais.

Ni fydd unrhyw geisiadau sy’n cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.

Rydym yn disgwyl tynnu’r rhestr fer a chynnal cyfweliadau fel a ganlyn ond fe all hyn newid:

Dyddiad cau: Hydref 12fed 2020 (ganol nos)

Rhestr fer: Hydref 14eg 2020

Ymweld â’r ysgol: Tachwedd 3ydd 2020 (gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i ymweld os mae amodau’n caniatau)

Cyfweliad Diwrnod 1: Tachwedd 3ydd 2020 yn Ysgol Caer Elen

Cyfweliad Diwrnod 2: Tachwedd 4ydd yn Ysgol Caer Elen

About Ysgol Caer Elen

School image 1
School image 2
School image 3
School image 4
School image 5
School image 6
School image 7
School image 8
  • Ysgol Caer Elen
  • Withybush Road, Haverfordwest
  • Pembrokeshire
  • SA62 4BN
  • United Kingdom
+44 1437 808470

View on Google Maps

Visit employer website

Please note that you are wholly responsible for fact checking in respect of the information provided by schools. Please also check for the latest visa and work permit requirements that may apply. Tes is not responsible for the content of advertisements or the policies adopted by advertising schools. Tes asks that all schools follow Tes' Fair Recruitment Policy.

Applications closed