Her dwyieithrwydd
Share
Her dwyieithrwydd
https://www.tes.com/magazine/archive/her-dwyieithrwydd
Rhaid nodi nad yw medrau llythrennedd deuol yn dilyn yn naturiol o dderbyn addysg ddwyieithog. Maent yn fedrau penodol a all gefnogi datblygiad meddyliol a chreadigol plentyn, yn ogystal a’i dwf deallusol a’i ddealltwriaeth o bynciau a materion amrywiol. Mae’n ofynnol i ysgolion wneud ymdrech gynlluniedig i’w datblygu oddi mewn i sefyllfaoedd dwyieithogo bob math - ac mae’n hanfodol sicrhau nad gwanhau’r naill iaith na’r llall a wneir wrth weithredu yn y modd hwn.
Beth felly yw Llythrennedd Deuol? Yn syml, y gallu i fanteisio’n llawn ar hyfedredd mewn dwy iaith i ddibenion amrywiol. Yng Nghymru, sonnir am y Gymraeg a’r Saesneg, ond yr un yw’r medrau pa ddwy iaith bynnag yr ymwneir a hwy. Mae’r medrau’n cynnwys y canlynol:
* troi’n rhwydd o’r naill iaith i’r llall;
* trosi llafar cyflym o’r naill iaith i’r llall;
* darllen o wahanol ffynonellau yn y ddwy iaith a chymathu gwybodaeth ohonynt;
* cyflwyno ar lafar neu’n ysgrifenedig yn y naill iaith neu’r llall yn unol a gofynion y gynulleidfa;
* darllen darn mewn un iaith a chyflwyno crynodeb ohono ar lafar mewn iaith arall.
Gorau po gyntaf yr awn ati i gyfundrefnu gweithgarwch llythrennedd ysgolion a cholegau i gynnwys y medrau hyn - a dangos i’r byd yr hyblygrwydd meddwl a’r egni creadigol a berthyn i genedl ddwyiethog y Cymry.
Rhiannon Lloyd
You've reached your limit of free articles this month. Subscribe for £1 per month for three months and get: