Diwedd y gan yw y geiniog
Share
Diwedd y gan yw y geiniog
https://www.tes.com/magazine/archive/diwedd-y-gan-yw-y-geiniog
Mae’r ymdrech i wella safon addysg yn ysgolion Cymru un amser yma o’r flwyddyn yn cael ei diystyru oherwydd fod penaethiaid a chyrff llywodraethol un brwydro gyda’r gyllideb flynyddol.
Hefyd, mae’n gyfnod pryderus i athrawon weld swyddi un diflannu yn yr ysgolion.
Gall Jane Davidson, Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes, ein hatgoffa fod y gwariant blynyddol yn ystod 2003-4 o pound;3,668 y pen yn ysgolion Cymru un uwch na Lloegr ac eithrio Llundain.
Ar y llaw arall, dywed yr Awdurdodau Lleol na chawsant yr arian, ac felly rhaid oedd iddynt ostwng y gyllideb i’r ysgolion.
Mae’r anghyfartaledd rhwng nifer o awdurdodau gwledig yn anheg. Er engraifft, gwariodd Ceredigion gyfartaledd o pound;4,358 y pen tra pound;3,343 y pen yn unig wariwyd yn Sir Flint (a oedd ar waelod y rhestr).
Ychwanegir at yr ananhawsterau presennol gan wahanol bolisiau’r awdurdodau lleol. Mae rhai awdurdodau yn talu’r holl gost dilyniant Amrediad Cyflog Uwch 3, eraill yn talu hanner y gost ac un awdurdod yn talu’r trydedd ran yn unig. Mae hyn yn annerbyniol.
Ychydig fisoedd yn ol rhoddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru pound;33 miliwn ychwanegol tuag at gost y “Cytundeb Cenedlaethol ar Leihau Llwyth Gwaith Athrawon”. Yn anffodus, ni chafodd yr arian ei ddefnyddio yn gyfangwbl i’r pwrpas gwreiddiol; defnyddiodd rhai ysgolion yr arian i amddiffyn swyddi athrawon. Mae hyn hefyd yn annerbyniol.
Yn aml mae ysgolion yn rhoi’r bai ar y lleihad yn nifer y disgyblion am orfod diswyddo athrawon. Dylai’s Cynlluniad dderbyn hyn fel cyfle gwych i ddefnyddio’s athrawon hyn i leihau maint dosbarthiadau, ac i weithredu’n llawn y “Cytundeb Llwyth Gwaith”.
Dyma ffordd dda i droi’r argyfwng er lles addysg Cymru.
Y mae Geraint Davies yn ysgrifennydd yr NASUWT Cymru
You've reached your limit of free articles this month. Subscribe for £1 per month for three months and get: