Nid da lle gellir gwell
Share
Nid da lle gellir gwell
https://www.tes.com/magazine/archive/nid-da-lle-gellir-gwell
Oes, mae gan gyrff llywodraethu nifer o gyfrifoldebau; wedi’r cwbl maent yn atebol yn y pen draw am yr hyn sy’n digwydd yn yr ysgol. Ond nid mater yn unig o gydymffurfio a gofynion cyfreithiol rhan 4 o’r DGSA; sicrhau bod cynlluniau hygyrchedd yn eu lle; nad yw gwahaniaethu yn digwydd yn erbyn disgyblion anabl a darpar ddisgyblion anabl o ran eu derbyn, eu haddysg a gwasanaethau cysylltiedig a gwahardd a geir yma.
Mae’n mynd lawer ymhellach - mae’n ymwneud ag agwedd, codi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a chydymdeimlad. Mae angen i ni edrych ar y DGSA o safbwynt y plentyn. Llwyddodd y bobl ifanc o Barnardo’s i amlygu’r anawsterau sy’n wynebu rhai plant ag anghenion arbennig.
Nid yw cael polisiau yn eu lle yn ddigon - rhaid eu hadolygu a’u gwerthuso’n rheolaidd fel nad yw disgyblion anabl dan anfantais sylweddol gan ofyn, a yw’r corff llywodraethu yn rhagweithiol? Bydd llywodraethwyr sydd a’r wybodaeth gyflawn ac yn gofyn y cwestiynau cywir yn hwb i sicrhau gwahaniaeth.
Mae nifer yn cefnogi cynhwysiant yn frwd ac mae sawl enghraifft o ymarfer ardderchog mewn ysgolion. Ac eto, mae sefyllfaoedd lle mae diffyg cefnogaeth a chyfyngiadau ariannol yn atal gwir integreiddio. Gwneir hefyd dybiaethau weithiau am allu, cyfleoedd galwedigaethol ayyb, wedi’u mynegi’n ddiarwybod trwy’r cwricwlwm hyd yn oed.
Yn ddiweddar rhoddwyd cryn sylw i’r cyfreithiau newydd sydd wedi dod i rym sy’n mynnu bod busnesau a chyrff cyhoeddus yn sicrhau bod modd i bobl anabl ddefnyddio eu hadeiladau. Mae AALl ac ysgolion wedi gwneud cynnydd, ac yn parhau i wneud hynny, i sicrhau y gellir gwneud addasiadau rhesymol fel bod pawb yn gallu cymryd rhan mewn addysg brif ffrwd.
Ydy, mae deddfwriaeth anabledd wedi cryfhau hawliau person anabl, ond nid yw’n ddigon. Mae mwy o ymwybyddiaeth trwy hyfforddiant i staff, disgyblion a llywodraethwyr yn hanfodol. Bydd hyn yn arwain at well dealltwriaeth a newid mewn agweddau.
Jane Morris yw Cydlynydd Gwasanaethau Cefnogi Llywodraethwyr Cymru
You've reached your limit of free articles this month. Subscribe for £1 per month for three months and get: