Mwy nag un iaith yma

11th March 2005 at 00:00
Mae Cymru'n llawn plant dwyieithog, meddai Sian Thomas

Ro'n i'n pendwmpian yn y gwely'r bore o'r blaen, ar ol cael fy neffro'n greulon gan sgrech y cloc larwm, pan glywais swn y postman yn stwffio'r llythyron boreol drwy'r blwch postio. Glywais i erioed y fath ffwdan wrth drio postio'r hyn ro'n i'n feddwl oedd pentwr o 'rwtshbost' a biliau. Erbyn hyn roeddwn wedi hen ddihuno, ac yn ysu am wybod beth oedd mor anodd i'w bostio. Oeddwn, mi roeddwn yn llygad fy lle - pentwr o bapurau lliwgar yn cynnig bargeinion yn amryw o siope'r ardal, cerdyn post gan ffrindiau ar wyliau sgio, ac amlen frown gan ddyn y treth!

Yng ngwaelod y pentwr, roedd yr hyn achosodd y swn - cylchgrawn swmpus yn hysbysebu'r hyn oedd ar gael i'ch helpu chi i ehangu sgiliau ieithyddol eich plant. "Diddorol!", meddyliais, a dyma'i agor, a gweld y geiriau "Does your child speak only English?"

Nawr galwch fi'n sensitif, ond mi dwymodd fy ngwaed, cyn i mi hyd yn oed fentro i'r tudalennau eraill. Yr hyn wylltiodd fi, oedd y cymryd yn ganiataol sy'n digwydd byth a hefyd gan y byd Saesneg ei iaith, taw'r Saesneg yw unig iaith y mwyafrif o blant Prydain. Fe wyddom, yma yng Nghymru, am y cynnydd yn y niferoedd sy'n dysgu'r Gymraeg, a llwyddiant aruthrol y gyfundrefn addysg wrth gyflwyno'r iaith i blant o gartrefi di-Gymraeg. "Only English?!"

Yn sicr, 'dyw hyn ddim yn wir yng Nghymru, nac ychwaith mewn nifer o ardaloedd eraill o'r Deyrnas Unedig, lle mae'r ieithoedd brodorol wedi profi adfywiad - yn Iwerddon a'r Alban er enghraifft. Yn ogystal a hynny, ers degawdau bellach, bu'r ynysoedd yma'n gyrchfan i nifer o dramorwyr sydd wedi ymgartrefu yma, a bellach mae nifer helaeth o'r ail neu'r drydedd genhedlaeth o fewnfudwyr yn falch o allu dweud eu bod yn Gymry Pacistanaidd, yn Saeson Affricanaidd, yn Wyddelod Eidalaidd neu'n Albanwyr Pwylaidd, ac yn y blaen, a'u bod yn arddel eu mamiaith yn ogystal a'r Saesneg. Mewn rhannau o Gymru, yn enwedig yn y trefi a'r dinasoedd lle gwelir canran uchel o fewnfudwyr, mae nifer o ddisgyblion yn siarad tair iaith neu fwy, a'r un mor gartrefol yn y Gymraeg a'r Saesneg a iaith y 'teulu gartre, ac mae'r rhieni'n awyddus eu bod yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. "Only English?!"

Aeth y cylchgrawn ymlaen i hysbysebu fideos a chyrsiau i ddysgu Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg i blant y wlad - gwych - ond doedd dim son am gyrsiau dysgu Pwnjabi, Arabeg, Cantoneg, Wrdw neu Hindi, er enghraifft, a ieithoedd y gwledydd tu fas i Ewrop - gwledydd sy'n cynrychioli canran mor sylweddol o drigolion yr ynysoedd hyn. Oni fyddai'n wych o beth bod plant brodorol yn dysgu rhywfaint o iaith eu cymdogion newydd? Nid y plant fyddai'r unig rai i elwa o ehangu eu sgiliau iaith. Dwi'n siwr bod nifer ohonom ni wedi teithio dramor ar wyliau ac edmygu sgiliau ieithyddol y sawl sy'n gweini arnom ni mewn gwestai neu siopau - eu gallu i gyfathrebu mewn nifer o ieithoedd. Faint ohonom ni, drigolion brodorol yr ynysoedd hyn sy'n gallu cynnal sgwrs ar unrhyw lefel mewn tair neu bedair o ieithoedd? Onid yw hi'n bryd i ni dderbyn bellach bod nifer o ieithoedd brodorol, hyd yn oed yma yng Nghymru?

Y gwir amdani yw bod y mwyafrif ohonom ni jest ddim yn trio! Mae iaith yn ffenest ar ddiwylliant cenedl ac, yn y byd sydd ohoni, oni allwn ni i gyd elwa o wybod ychydig mwy am ffordd o fyw, arferion, traddodiadau a chredoau ein cymdogion? Fyddai'r byd yma'n lle diflas ar y naw pe byddai pawb yn gwmws yr un peth, ac yn siarad un iaith yn unig. Mae'r byd yn fach, a rhaid i ni fyw ochr yn ochr a'n gilydd a pharchu'n gwahaniaethau, ffordd o fyw a diwylliannau amrywiol. Fe dystir yn gyson i'r cyd-fyw ddigwydd yn naturiol o fewn muriau ysgolion meithrin a chynradd, lle'n aml y daw ieithoedd yn rhwydd i blant, ond beth sy'n digwydd wrth i'r unigolion yma dyfu'n hyn? Pam mae gwahaniaethau'n gallu datblygu'n broblemau a siarad diddiwedd buarth ysgol yn troi'n dawelwch neu'n gweryl ar balmant stryd fawr? Hwyrach taw'r camau cyntaf at gyfathrebu ydi parchu ieithoedd a diwylliant ein gilydd, hybu dealltwriaeth o'r hyn sy'n wahanol amdanom ni ac annog goddefgarwch. Y man cychwyn, efallai, yw cydnabod a dathlu realiti'r geiriau - "NOT only English!"

Mae Sian Thomas yn gyflwynwraig teledu a radio, ac mae ganddi radd ieithyddiaeth

Subscribe to get access to the content on this page.

If you are already a Tes/ Tes Scotland subscriber please log in with your username or email address to get full access to our back issues, CPD library and membership plus page.

Not a subscriber? Find out more about our subscription offers.
Subscribe now
Existing subscriber?
Enter subscription number

Comments

The guide by your side – ensuring you are always up to date with the latest in education.

Get Tes magazine online and delivered to your door. Stay up to date with the latest research, teacher innovation and insight, plus classroom tips and techniques with a Tes magazine subscription.
With a Tes magazine subscription you get exclusive access to our CPD library. Including our New Teachers’ special for NQTS, Ed Tech, How to Get a Job, Trip Planner, Ed Biz Special and all Tes back issues.

Subscribe now