Gwasanaeth Shwmae Su'mae 2026Quick View
lowrijacob

Gwasanaeth Shwmae Su'mae 2026

(0)
Gwasanaeth Diwrnod Shwmae Su’mae Gwasanaeth i ddathlu’r Gymraeg ac annog pawb i ddefnyddio’r iaith yn hyderus bob dydd. Cyflwyniad: Dyfalu cyfarchion mewn gwahanol ieithoedd cyn cyflwyno Diwrnod Shwmae Su’mae a’i bwrpas. Defnyddio’r Gymraeg: Trafod sut a ble gallwn ddechrau sgyrsiau yn Gymraeg. Y Gymraeg yng Nghymru: Edrych ar nifer y siaradwyr Cymraeg a tharged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Pobl enwog: Cyflwyno enghreifftiau o bobl enwog sy’n dysgu Cymraeg a thrafod eu rhesymau dros ddysgu’r iaith. Manteision dwyieithrwydd: Trafod cyfleoedd, cyfeillgarwch, diwylliant a manteision dysgu a defnyddio dwy iaith. Cwis rhyngweithiol: Atgyfnerthu’r dysgu drwy gwis ‘pen, ysgwyddau neu lawr’. Neges i gloi: Annog y disgyblion i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn yr ysgol, gartref ac yn y gymuned. Hyd: Tua 20 munud. Prif neges: Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, ac mae pob gair Cymraeg yn gwneud gwahaniaeth!