Trychineb Aberfan - Sioe Radio CC2-3
Gwers unigol ar gyfer cofio am Drychineb Aberfan ac nid rhan o ddilyniant o wersi. Mae’n addas yn bennaf ar gyfer Cam Cynnydd 2, ond gellir ei haddasu’n hawdd ar gyfer CC1 neu CC3.
Prif bwrpas y dasg yw rhoi cyfle i’r plant ddangos yr hyn maent yn ei wybod am Drychineb Aberfan drwy greu darn byr ar gyfer sioe radio. Mae’r plant yn defnyddio’r wybodaeth maent yn ei gofio i ysgrifennu eu darn, gan ddefnyddio cwestiynau fel Beth? Ble? Pryd? Pam? Sut?
Mae pedair lefel o her, gyda Her 1-3 yn cynnig mwy o gefnogaeth a Her 4 yn annog ysgrifennu mwy annibynnol.Ar ôl cwblhau’r ysgrifennu, mae’r plant yn recordio eu darn ar Seesaw, gan ddefnyddio llais clir a thôn addas.
Mae’r wers yn dangos dealltwriaeth a datblygu sgiliau cyfathrebu mewn ffordd ymarferol a phwrpasol.
