pdf, 740.35 KB
pdf, 740.35 KB
pdf, 428.68 KB
pdf, 428.68 KB
pdf, 5.19 MB
pdf, 5.19 MB
pptx, 13.58 MB
pptx, 13.58 MB

Gwers ryngweithiol yw ‘Ffeithiau Treth’ sydd wedi ei chynllunio i helpu pobl ifanc i ddeall y system dreth a’r rôl y mae treth yn ei chwarae mewn cyflogaeth.

Mae’r wers wedi ei chreu i ddysgwyr 14 i 17 oed i’w cefnogi wrth iddyn nhw ddechrau paratoi ar gyfer y byd gwaith, gan gynnwys unrhyw waith rhan amser neu waith yn ystod y gwyliau o 16 oed ymlaen.

Byddan nhw’n dysgu popeth am y system dreth, y gwahanol fathau o drethi a goblygiadau peidio â thalu treth. Byddan nhw hefyd yn dysgu sut mae treth yn cael ei chasglu wrth ddechrau eich busnes eich hun neu drwy TWE wrth weithio i gyflogwr.

Mae’r cynllun gwers Ffeithiau Treth yn cynnwys arweiniad ar sut i ddefnyddio’r fideos ochr yn ochr â’r gweithgareddau. Mae amcanion y wers yn cefnogi elfennau amrywiol y cwricwlwm sy’n gysylltiedig â chynllunio ar gyfer bywyd a gwaith y dyfodol a bod yn ddinasyddion cyfrifol.

Os ydych yn chwilio am adnoddau i ddysgwyr rhwng 8 ac 13 oed, gweler ein pecyn gwersi Ffeithiau Treth Iau, sy’n cyflwyno’r pwnc drethiant i blant.

Adnoddau sydd ar gael:
1 x Canllaw Cyflwyno (gan gynnwys cynllun gwers, amcanion dysgu, cysylltiadau â’r cwricwlwm,
a geirfa)
1 x Cyflwyniad PowerPoint ar gyfer y Wers
1 x Taflen Weithgaredd yn y Dosbarth
1 x Taflen Weithgaredd Ddilynol (mae modd ei defnyddio fel gwaith cartref)

Mae’r wers Ffeithiau Treth yn cynnwys pedwar fideo byr sy’n delio â’r themâu allweddol canlynol:

  1. Beth yw treth?
  2. Beth yw CThEF?
  3. Yr economi gudd
  4. Rhan 1: Dechrau gwaith
  5. Rhan 2: Gweithio i chi’ch hun
Creative Commons "NoDerivatives"

Reviews

Something went wrong, please try again later.

This resource hasn't been reviewed yet

To ensure quality for our reviews, only customers who have downloaded this resource can review it

Report this resourceto let us know if it violates our terms and conditions.
Our customer service team will review your report and will be in touch.