pdf, 3.35 MB
pdf, 3.35 MB
pptx, 10.45 MB
pptx, 10.45 MB
pdf, 1.12 MB
pdf, 1.12 MB
pdf, 322.53 KB
pdf, 322.53 KB

Mae Ffeithiau Treth Iau yn wers ryngweithiol sydd wedi’i chynllunio er mwyn cyflwyno plant i’r pwnc o drethiant.

Bydd plant yn dysgu mai trethi yw’r arian y mae’n rhaid i bobl a busnesau ei dalu i’r llywodraeth er mwyn talu am y pethau sy’n bwysig i ni a’n teuluoedd, i’n cymunedau ac i’n gwlad.

Mae’r wers yn cyflwyno’r syniad bod pob un ohonon ni, fel dinasyddion cyfrifol, yn gwneud cyfraniad bach tuag at y pethau sydd o fudd i bawb.

Mae’r cynllun gwers Ffeithiau Treth Iau yn cynnwys arweiniad ar sut i ddefnyddio’r fideos ar y cyd â gweithgareddau ar gyfer dau grŵp oedran: 8 i 11 oed a 11 i 13 oed.

Mae nodau’r wers yn cefnogi elfennau’r cwricwlwm ar gyfer y ddau grŵp oedran.
Os ydych yn chwilio am adnoddau i fyfyrwyr rhwng 14 ac 17 oed, gweler ein pecyn gwersi Ffeithiau Treth sy’n rhoi rhagor o fanylion am drethiant.

Adnoddau sydd ar gael:
1 x Canllaw Cyflwyno (gan gynnwys cynllun gwers, amcanion dysgu, cysylltiadau â’r cwricwlwm,
a geirfa)
1 x Cyflwyniad PowerPoint ar gyfer y Wers
1 x Taflen Weithgaredd yn y Dosbarth
1 x Taflen Weithgaredd Ddilynol (mae modd ei defnyddio fel gwaith cartref)

Mae’r wers Ffeithiau Treth Iau yn cynnwys tri fideo byr sy’n delio â’r canlynol:

  1. Pam mae gennym dreth?
  2. Beth yw treth?
  3. Treth a CThEF
Creative Commons "NoDerivatives"

Reviews

Something went wrong, please try again later.

This resource hasn't been reviewed yet

To ensure quality for our reviews, only customers who have downloaded this resource can review it

Report this resourceto let us know if it violates our terms and conditions.
Our customer service team will review your report and will be in touch.